Pwrpas y dudalen hon yw helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am ein haelodaeth Cyfeillion.

Mae gennym ni hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl oedd yn rhan o’n Cynllun Aelodaeth Gwaddol cyn 2025 (sgroliwch i lawr).


Aelodaeth Cyfeillion

Ydw i’n gallu cael cerdyn aelodaeth?

Mae cardiau aelodaeth ar gael yn ddigidol dros eich ffôn. Mae cerdyn aelodaeth corfforol ar gael i aelodau ei brynu drwy daliad blynyddol – ar gael i’w gasglu yn y theatr – e-bostiwch box.office@theatrclwyd.com i ofyn am gerdyn ar ôl ymuno.

Sut mae cael fy ngostyngiad yn y sinema?

Mae eich gostyngiad ar gael ar ffilmiau – wrth archebu ar-lein mewngofnodwch i’ch cyfrif, wedyn prynu’r tocynnau fel arfer – bydd y gostyngiad yn cael ei roi yn y fasged.

Sut byddaf yn cael gwybod am flaenoriaeth archebu?

Byddwn yn anfon e-bost atoch chi bob tro y bydd gennym ddigwyddiad newydd gyda blaenoriaeth i archebu tocyn – gwnewch yn siŵr bod Theatr Clwyd ar eich rhestr o dderbynyddion dibynadwy ac os cewch chi unrhyw broblemau, ffoniwch y swyddfa docynnau.

Aelodaeth Gwaddol

Beth am aelodau presennol (wedi prynu cyn 2025)?

Os gwnaethoch chi brynu aelodaeth cyn 2025 (ein cynllun aelodaeth gwaddol), bydd eich aelodaeth bresennol yn dod i ben ar 30 Ebrill 2025.

Yn 2024 fe wnaethom benderfynu ymestyn pob aelodaeth gwaddol am ddim hyd at ddiwedd mis Ebrill 2025 – mae hyn yn golygu bod pob aelodaeth gwaddol wedi rhedeg yn hirach na’r tâl gwreiddiol ac, yn bwysig iawn, wedi sicrhau bod yr aelodau hynny’n cael blaenoriaeth archebu ar gyfer ein sioeau hydref 2024, tymor agoriadol 2025 a’n panto ar gyfer 2025/26.

Rydym hefyd wedi rhewi pris yr aelodaeth gwaddol ers 2019 – yn enwedig yng ngoleuni pandemig Covid a’n cyfleusterau dros dro tra oedd y gwaith ailddatblygu’n mynd rhagddo.

Yn olaf, bydd yr aelodau gwaddol yn cael eu gwahodd i brofi digwyddiadau yn ein hadeilad wedi’i ailddatblygu (theatrau, sinema a phopeth), teithiau cefn llwyfan a bydd cyfle iddynt fod ymhlith y cyntaf i roi cynnig ar ein bwyty newydd pan fydd yn agor.

Rydyn ni'n mawr obeithio y gallwch chi barhau i ymuno â ni ar ein siwrnai gyda'n Haelodaeth Cyfeillion newydd.

A fydd fy aelodaeth gwaddol yn trosglwyddo’n awtomatig i Aelodaeth Cyfeillion?

Ni fydd aelodaeth gwaddol yn trosglwyddo'n awtomatig i’r Aelodaeth Cyfeillion newydd. Ar ôl i'ch aelodaeth gwaddol ddod i ben gallwch naill ai gofrestru eto ar-lein, neu ffoniwch y swyddfa docynnau (01352 344101) a bydd ein tîm yn gallu helpu.