Telerau ac Amodau: Aelodaeth Cyfeillion

Aelodaeth Cyfeillion
1 - Cyflwyniad
Diolch i chi am ymuno ag Aelodaeth Cyfeillion Theatr Clwyd. Darllenwch y canlynol yn ofalus oherwydd drwy ymuno â'n Haelodaeth a thalu rydych chi’n cytuno i gadw at y telerau a’r amodau hyn.
2 – Manteision i Aelodau
Fel aelod o gynllun Aelodaeth Cyfeillion Theatr Clwyd, mae gennych chi hawl i’r canlynol:
- Blaenoriaeth archebu panto ar gyfer pantomeim blynyddol Theatr Clwyd
- Blaenoriaeth archebu tymor ar gael ar y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a hysbysebir yn Theatr Clwyd yn ein llyfrynnau tymhorol
- Gostyngiad o 5% ar docynnau tanysgrifio lle nodir hynny
- Gostyngiad o 10% ar docynnau ffilm ac eithrio dangosiadau byw a rhai dangosiadau digwyddiadau arbennig
- Gostyngiad o 10% ar ddigwyddiadau dethol lle nodir hynny
- Gostyngiad o 5% ar ddiodydd yn Theatr Clwyd
Mae’r manteision i aelodau’n amodol ar y telerau a ganlyn:
- Mae pob aelodaeth (boed yn cael ei thalu'n fisol neu'n flynyddol) yn gontract 12 mis o leiaf.
- Nid yw aelodaeth Cyfeillion a’r manteision cysylltiedig yn drosglwyddadwy rhwng pobl.
- Mae gostyngiadau ar docynnau’n berthnasol i docynnau pris llawn yn unig ac nid oes posib eu cyfuno â chynigion, gostyngiadau na chonsesiynau eraill.
- Nid oes posib cymhwyso gostyngiadau tocynnau yn ôl-weithredol ar docynnau a brynwyd eisoes.
- Mae’r digwyddiadau blaenoriaeth archebu’n cael eu dewis gan Theatr Clwyd ac rydym yn cadw'r hawl i eithrio digwyddiadau.
- Mae Theatr Clwyd yn dewis digwyddiadau a ffilmiau am bris is ac maent yn amodol ar argaeledd.
- Mae'r holl docynnau sydd ar gael a’r gostyngiadau’n dibynnu ar argaeledd.
- Nid oes posib defnyddio gostyngiadau diodydd ar y cyd ag unrhyw gynigion neu ostyngiadau arbennig eraill.
- Rhaid dangos Prawf o Aelodaeth ar bob ymweliad i gael Manteision Aelodaeth.
- Nid oes posib ad-dalu aelodaeth Cyfeillion a bydd yn para am y cyfnod dilysrwydd ac nid oes posib ei chanslo.
- Os byddwch chi’n ymuno ac wedyn yn newid eich meddwl ac eisiau canslo eich Aelodaeth, gallwch wneud hynny os yw o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad prynu. Bydd Theatr Clwyd yn ad-dalu unrhyw Ffioedd Aelodaeth a dalwyd yn llawn (oni bai eich bod wedi defnyddio’r manteision Aelodaeth yn ystod yr 14 diwrnod yma).
- Bydd modd cael prawf o aelodaeth weithredol drwy gerdyn waled digidol neu ar ein ap archebu neu wefan (bydd manylion am sut i gael mynediad yn cael eu hanfon at bob prynwr).
3 – Newidiadau i'r aelodaeth.
- Mae Theatr Clwyd yn cadw'r hawl yn unol â’i disgresiwn llwyr i newid y Ffi Aelodaeth bob blwyddyn.
- Mae Theatr Clwyd yn cadw'r hawl i ychwanegu a dileu opsiynau talu gan gynnwys amledd talu.
- Bydd aelodaeth Cyfeillion ddilys yn rhoi'r hawl i chi gael y manteision ond efallai y bydd rhai o'r manteision neu'r cyfan ohonynt yn cael eu dileu neu eu haddasu gan Theatr Clwyd, neu y bydd ychwanegu atynt, yn unol â’n disgresiwn.
- Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl yn unol â’i disgresiwn llwyr i wrthod neu derfynu Aelodaeth os yw ymddygiad Aelod, yn ei barn rhesymol, yn cael ei ystyried mewn unrhyw ffordd fel aflonyddu, achosi gofid neu anghyfleustra i Aelodau eraill, unrhyw ymwelydd â Theatr Clwyd, unrhyw aelod o staff Theatr Clwyd, ymddiriedolwyr, noddwyr neu gefnogwyr eraill Theatr Clwyd.
- Mae Theatr Clwyd yn cadw'r hawl i wrthod neu derfynu aelodaeth a'i manteision cysylltiedig ar unrhyw adeg.
4 – Cysylltu â Chi a Phreifatrwydd
I gael manylion llawn am sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd yma.
Bydd yr holl wybodaeth am yr aelodaeth Cyfeillion a’i manteision yn cael ei hanfon ar e-bost. Drwy ymuno â’r aelodaeth Cyfeillion rydych yn cydsynio i dderbyn gwybodaeth am y cynllun a’r manteision cysylltiedig ar e-bost. Bydd manylion personol yn cael eu storio yn ein cronfa ddata. Bydd eich data’n cael eu prosesu a’u storio yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data.