Gwybodaeth Archebu

Sut i archebu
Mae’n syml archebu ar gyfer ein holl ddigwyddiadau trwy ein gwefan neu gyda’n tîm cyfeillgar yn y swyddfa docynnau.
Dros y Ffôn
Mae ein llinell ffôn (01352 344101) yn agor o 10yb i 6yh, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn.
Mae adegau prysur yn dueddol o fod rhwng 10yb i 11yb.
Arlein
Gallwch archebu arlein trwy’r wefan hon. Dewiswch y sioe rydych eisiau ei gweld, sgroliwch i waelod y dudalen i ddewis eich perfformiad ac mi wnaiff y system swyddfa docynnau eich arwain trwy’r gweddill!
Trwy E-bost
Oes gennych ymholiad ynglyn â’ch archeb? Danfonwch ebost atom: box.office@theatrclwyd.com ac mi wnawn ateb cyn gynted â phosib!
Ar Facebook neu Drydar
Er nad ydym yn gallu derbyn archebion trwy Facebook a Trydar, gallem ateb cwestiynnau a chynnig rhywfaint o gymorth tu allan i oriau.
Sylwch nad oes bwcio personol ar hyn o bryd.
