Cwestiynau Cyffredin
Croeso i'n tudalen Cwestiynau Cyffredinol - dyma rai o atebion i'r cwestiynau sydd yn cael eu gofyn yn fwy rheolaidd!
Pam nad yw'r holl seddi ar werth ar unwaith?
Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod gennym ni gymysgedd o sioeau yn ystod ein blwyddyn - mae gan rai cynulleidfaoedd eang ac mae eraill yn fwy arbenigol, bydd rhai yn gwerthu allan a bydd eraill yn gwerthu 50% - 70% o'r seddi sydd ar gael. Fe wnaethon ni sylwi, ar gyfer y sioeau nad oedden nhw wedi gwerthu allan, roedd gennym ni broblem - byddai'r gynulleidfa'n cael ei lledaenu a byddai rhannau o'r awditoriwm yn teimlo'n wag.
Er ein bod bob amser yn anelu at werthu popeth y gallwn, nid ydym bob amser yn taro 100% - mae gennym gred gref bod profiad theatr fyw yn cael ei wella trwy fod awditoriwm yn llawn - bod o amgylch pobl sydd yn mwynhau'r un profiad - os allwn ni wneud hynny (ni allwn ei wneud ar gyfer popeth) yna rydym yn sicrhau profiad gwych trwy sicrhau bod yr awditoriwm yn teimlo'nbrysur.
Nid oes unrhyw un yn hoffi edrych ar seddi gwag felly, gan fod pobl yn tueddu i edrych ymlaen ac i'r ochr yn ystod sioeau ac anaml y tu ôl iddynt, mae'n golygu ei bod yn gwneud synnwyr inni geisio cael pobl ymhellach ymlaen yn yr awditoriwm trwy gyfuniad o gloi cefn y tŷ ar y dechrau a gwneud newidiadau i'n prisiau. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn am y 6 mis diwethaf ac ar y cyfan, ac i'r mwyafrif helaeth o'n cynulleidfaoedd, mae wedi gwella'r profiad.
O ran argaeledd seddi, rydym yn adolygu argaeledd yn wythnosol ac yn rhyddhau seddi pan fydd y galw yn gofyn amdani (ein nod yw cael o leiaf 80 sedd ar werth ar bob sioe er mwyn sicrhau bod gan bobl ddewis). Yn hanfodol, rydym hefyd wedi newid ein prisiau fel bod seddi yn rhatach tuag at y blaen ac yn ddrytach tuag at y cefn - er mwyn annog archebu'n gynnar a hefyd i helpu'r awditoriwm i lenwi mewn ffordd sy'n ffafriol i wneud i'r tŷ deimlo'n fwy prysur. Mae hyn i gyd yn wirioneddol yn ein helpu gyda'n cynaliadwyedd tymor hir gan sicrhau y gallwn barhau i gynhyrchu ein gwaith ein hunain, gweithio gyda'r gymuned a pharhau i ddod â chwmnïau byd-enwog i'n llwyfan.
Sut y gallaf weld sioe am bris is?
Cwestiwn gwych.
Ar draws y mwyafrif o sioeau rydym yn eu cyflwyno, mae 10% o'r tocynnau ar werth am y pris isaf a hysbysebwyd (£10 fel arfer) ac ar gyfer ein sioeau ni, a gynhyrchwyd gan Theatr Clwyd, dim ond £5 yw prisiau perfformiadau Gwisg Agored.
Ar gyfer sioeau sydd a galw mawr amdanynt, gall prisiau tocynnau godi, felly mae bob amser yn well archebu'n gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau sydd ar gael. Gall pobl sy'n tanysgrifio (sy'n werth ei wneud) arbed hyd at 30% o bris y tocyn (os ydyn nhw'n archebu'n gynnar). Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch chi, ffoniwch ein swyddfa docynnau (01352 344101) a byddant yn gallu eich cynghori ar y pris gorau sydd ar gael ar gyfer unrhyw berfformiad unigol neu ar draws rhediad sioe.
Ein cyngor doeth:
- Archebu'n gynnar – bydd y tocynnau yn bris rhatach ac mewn lleoliadau gwell na os byddech chi'n archebu'n hwyr.
- Prynu Tanysgrifiad – mae tanysgrifwyr yn arbed swm sylweddol trwy archebu sawl sioe.
- Dod yn aelod – mae aelodau yn cael gwybod am sioeau o flaen unrhyw un arall ac maent hefyd yn cael blaenoriaeth i brynu tocynnau rhatach.
Pam bod tocynnau ar gyfer rhai sioeau yn ddrutach?
Mae ein prisiau yn gweithio i gydbwyso dwy flaenoriaeth:
- Ar gyfer mwyafrif helaeth y sioeau rydyn ni’n eu cyflwyno, mae 10% o’r tocynnau’n cael eu gwerthu am y pris isaf a hysbysebir (£10 fel rheol)
- Ar gyfer ein sioeau ni ein hunain, yn cael eu cynhyrchu gan Theatr Clwyd, prisiau’r perfformiadau Ymarfer Gwisg Agored yw dim ond £5
- Mae gennym ostyngiadau sylweddol i ieuenctid o dan 26 oed ar gyfer y rhan fwyaf o’r sioeau (yn gyffredinol, tocynnau £10 ar gyfer unrhyw sedd mewn unrhyw berfformiad)
- Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau dan anfantais yn ein cymuned drwy gyfrwng ein tîm ymgysylltu creadigol i ddarparu mynediad cost isel neu ddim cost i’n gwaith
- Rydyn ni’n rhan o gynllun HYNT sy’n rhoi tocynnau ffrind am ddim i bobl gymwys
- Mae gennym fargeinion tanysgrifio sydd, o’u harchebu’n gynnar, yn golygu bod posib i chi weld theatr o safon byd, yn y seddau gorau, am hyd at 30% yn llai.
Y flaenoriaeth gyntaf (tocynnau am bris hygyrch) a gyflawnwn mewn ychydig o ffyrdd:
Rydyn ni'n teimlo bod hyn yn hynod o bwysig OND (ac mae hyn yn ond fawr!) Mae'n rhaid i ni ei gydbwyso â'r ail flaenoriaeth, cynaliadwyedd ariannol er mwyn sicrhau ein bod ni yma am amser hir ac yn gallu parhau i'w wneud. Sut ydyn ni'n gwneud hyn?
- Ar gyfer rhai sioeau y mae galw mawr amdanyn nhw, efallai y bydd prisiau’r tocynnau’n cynyddu – os yw sioe’n boblogaidd a bod y tocynnau fforddiadwy am bris is wedi gwerthu i gyd, dyma pryd fydd cynnydd yn digwydd efallai (ond nid bob amser). Os ydyn ni’n gallu rhyddhau mwy o docynnau, fel bod mwy o bobl yn gallu gweld y sioe, efallai y byddwn yn rhyddhau’r rhain am bris premiwm. (Pan hysbysebir prisiau fel “O XX”, bydd 10% o’r tocynnau’n cael eu gwerthu am y pris hwnnw bob amser.)
- Mae ein prisiau’n debyg i theatrau rhanbarthol cymharol eraill ledled y DU ac yn sylweddol ratach ac yn fwy hygyrch na llawer o leoliadau mewn prif ddinasoedd, theatrau masnachol a’r West End.
- Mae’r polisi’n galluogi i ni barhau â’n mentrau prisio hygyrch.
Os ydych chi eisiau gweld unrhyw rai o’n sioeau ni am bris is, rhaid gwneud y canlynol:
- Archebu’n gynnar – bydd y tocynnau am bris is mewn lleoliadau gwell na phan fyddwch chi’n archebu’n hwyr.
- Prynu tanysgrifiad – mae tanysgrifio’n arbed llawer iawn o arian drwy archebu mwy nag un sioe.
- Dod yn aelod – mae aelodau’n cael gwybod am ein sioeau ni cyn unrhyw un arall ac yn cael y cyfle cyntaf i brynu seddau am bris is.
Os oes arnoch chi angen unrhyw help neu gyngor, ffoniwch ein swyddfa docynnau (01352 344101), a fydd yn gallu rhoi gwybod i chi am y pris gorau sydd ar gael ar gyfer unrhyw berfformiad unigol neu ar draws rhediad sioe.
Pam nad oes unrhyw ostyngiadau i bensiynwyr?
Mae gostyngiadau’n bodoli am ddau reswm:
- Fel bod grwpiau incwm isel sydd ddim yn gallu fforddio dod i’r theatr yn dod yma
- I alluogi twf tymor hir y cynulleidfaoedd i sicrhau bod gan y theatr gynulleidfaoedd am genedlaethau i ddod.
Yn y gorffennol, roedden ni’n cynnig gostyngiad i bensiynwyr oedd yn lleihau’r prisiau £2 – dim digon i wneud gwahaniaeth rhwng ymweld a pheidio ag ymweld, ac nid oedd y gostyngiad yn cael ei fwynhau gan yr holl gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae ein prisiau fforddiadwy (ar gyfer y rhan fwyaf o’n cynyrchiadau mae 10% o’n tocynnau ar gael am £10) yn golygu ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod gennym ni docynnau ar gael am £10 ar gyfer pob perfformiad ar gyfer unrhyw un, gan gynnig llawer mwy o hygyrchedd.
Wrth gwrs mae’r tocynnau hynny ar gael i unrhyw un, ond mae’n fwy manteisiol i gynulleidfaoedd hŷn, sydd, yn gyffredinol, yn tueddu i allu cynllunio ymlaen llaw mwy ac archebu’n gynharach.
Pam ydych chi’n cynnig gostyngiad ar gyfer ieuenctid o dan 25 oed?
Mae ieuenctid o dan 25 oed yn tueddu i archebu’n hwyrach, yn llawer hwyrach, a hefyd yn tueddu i fod yn y grwpiau gyda’r incwm defnyddiadwy isaf. Rydyn ni’n cynnig gostyngiad i’r grŵp hwn i’w helpu’n ariannol i ymweld, a hefyd i helpu i greu sylfaen gynaliadwy o gynulleidfa fel bod gennym ddyfodol yn y tymor hir. Dyma un o’r rhesymau pam fod gennym raglen mor helaeth i deuluoedd – heb feithrin pobl ag angerdd dros y theatr, yn y tymor hir, bydd ein cynulleidfa’n mynd yn llai ac yn llai.
Oes system awyru yn y theatr ac os nad oes, pam?
Adeiladwyd y theatr yn 1976 heb system awyru a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn broblem reolaidd ond, yn rhwystredig, heb fuddsoddiad cyfalaf mawr, dydyn ni ddim yn gallu ei datrys. Rydyn ni wedi ceisio datrys y broblem drwy logi unedau awyru diwydiannol ond maen nhw’n gwneud llawer o sŵn ac nid oes modd eu defnyddio tra mae perfformiad yn cael ei gyflwyno ac nid ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae’r sefyllfa’n debyg mewn theatrau eraill yn y DU os nad ydyn nhw’n adeiladau newydd. Beth ydyn ni’n ei wneud i ddatrys hyn? Yn y tymor byr rydyn ni’n dal i roi cynnig ar syniadau newydd – does dim un wedi bod yn ateb perffaith hyd yma. Yn y tymor hir, rydyn ni’n gobeithio gweld ailddatblygiad cyfalaf gwerth £30m yn cael ei roi ar waith yma, a fydd yn datrys y broblem yma unwaith ac am byth.
Sut y gallaf weld sioe am bris is?
Cwestiwn gwych.
Ar draws y mwyafrif o sioeau rydym yn eu cyflwyno, mae 10% o'r tocynnau ar werth am y pris isaf a hysbysebwyd (£10 fel arfer) ac ar gyfer ein sioeau ni, a gynhyrchwyd gan Theatr Clwyd, dim ond £5 yw prisiau perfformiadau Gwisg Agored.
Ar gyfer sioeau sydd a galw mawr amdanynt, gall prisiau tocynnau godi, felly mae bob amser yn well archebu'n gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau sydd ar gael. Gall pobl sy'n tanysgrifio (sy'n werth ei wneud) arbed hyd at 30% o bris y tocyn (os ydyn nhw'n archebu'n gynnar). Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch chi, ffoniwch ein swyddfa docynnau (01352 344101) a byddant yn gallu eich cynghori ar y pris gorau sydd ar gael ar gyfer unrhyw berfformiad unigol neu ar draws rhediad sioe.
Ein cyngor doeth:
- Archebu'n gynnar – bydd y tocynnau yn bris rhatach ac mewn lleoliadau gwell na os byddech chi'n archebu'n hwyr.
- Prynu Tanysgrifiad – mae tanysgrifwyr yn arbed swm sylweddol trwy archebu sawl sioe.
- Dod yn aelod – mae aelodau yn cael gwybod am sioeau o flaen unrhyw un arall ac maent hefyd yn cael blaenoriaeth i brynu tocynnau rhatach.
Pam bod tocynnau ar gyfer rhai sioeau yn ddrutach?
Mae ein prisiau yn gweithio i gydbwyso dwy flaenoriaeth:
- Gwneud yn siŵr bod gennym ni docynnau am bris fforddiadwy fel bod pobl ar incwm isel yn gallu gweld ein gwaith.
- Gwneud yn siŵr ein bod yn gynaliadwy yn ariannol fel ein bod yn gallu dal ati i greu sioeau a gweithio ledled ein cymuned.
- Ar gyfer mwyafrif helaeth y sioeau rydyn ni’n eu cyflwyno,mae 10% o’r tocynnau’n cael eu gwerthu am y pris isaf a hysbysebir (£10 fel rheol)