Cyrraedd Yma
Teithio a Pharcio
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ailddatblygiad cyffrous ein hadeilad ni felly mae ychydig o newidiadau i fod yn ymwybodol ohonynt.
• Mae'r ffordd o flaen y theatr ar gau – mae arwyddion gwyriad yn eu lle ac nid yw’r mynediad i'r maes parcio aml-lawr wedi ei effeithio.
• Mae ein maes parcio o dan y ddaear ar agor ond mae’r twnnel sy’n cysylltu â’r theatr bellach wedi cau.
• Mae grisiau o'r maes parcio o dan y ddaear ac mae ein mynedfa newydd ar hyd y llwybr cerdded dan do ar ochr yr adeilad.
• Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yn y maes parcio o dan y ddaear neu’r maes parcio haenog.
• Mae man gollwng hygyrch ar gael yng nghefn y theatr. I gael mwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Thîm y Swyddfa Docynnau.
Mae Theatr Clwyd wedi ei sefydlu ar ben bryn yn edrych i lawr ar dref farchnad hyfryd Yr Wyddgrug.
Mae arwyddion mwynderau hamdden brown a gwyn amlwg yn arwain ar bob dynesfa, ac felly mae’n hawdd iawn cael hyd i ni. Mae ar yr un safle â Chanolfan Ddinesig Sirol Sir y Fflint (sydd hefyd ag arwyddion da).
Mae ein Gorsaf Wybodaeth ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 11yb-4yh i archebu mewn person ym mhabell Pentref Theatr Clwyd.
I ddod o hyd i ni ar Google Maps cliciwch yma!
Ein cyfeiriad:
Theatr Clwyd, Raikes Lane, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
Cyfeiriad ein swyddfa:
Theatr Clwyd Trust, St Davids Building, Earl Road, Yr Wyddgrug, CH7 1DQ
Oriau Agor yr Adeilad
Dydd Llun – ddydd Sadwrn
9yb hyd at tua 1 awr wedi i'r perfformiad olaf orffen.
Dydd Sul
Bydd yr adeilad yn agor 90 munud cyn i berfformiad cyntaf y diwrnod gychwyn hyd at 1 awr wedi i'r perfformiad gyntaf orffen.
Nodir os gwelwch yn dda, os nad oes perfformiad yn cymryd lle ar y diwrnod hwnw, bydd yr adeilad yn cau am 6yh. Cymerwch olwg ar ein Canllaw Beth Sydd Ymlaen neu ffoniwch 01352 344101 am wybodaeth bellach.
Ar y ffordd
O arfordir Gogledd Cymru, ewch ar yr A55 tuag at Gaer, cymryd yr allanfa sydd wedi ei nodi Y Fflint a throi i’r dde tuag at Yr Wyddgrug. Ewch trwy bentrefi Northop a Sychdyn, ac edrych am dro i’r dde, gydag arwydd clir, i’r theatr!
O Gaer neu Ogledd-Gorllewin Lloegr, dilynwch arwyddion i Ogledd Cymru a Chonwy. O’r A55, ewch i’r chwith ar yr A494 ar gyfer Yr Wyddgrug. Wrth i chi ddynesu at y dref, mae arwyddion clir i’r theatr ar y dde.
O gyfeiriadau eraill, ewch trwy’r Wyddgrug a chymryd yr A494, ffordd Y Fferi Isaf. Mae arwyddion i’r theatr ar y chwith wedi i chi adael y dref.