Cyfarfodydd | Cynadleddau | Digwyddiadau.

Digwyddiadau Ysbrydoledig. Lleoliad o Safon Byd. Calon Gogledd Cymru.

Gwnewch wahaniaeth i'ch busnes gyda digwyddiadau cofiadwy, effeithiol, gan ddod â thimau at ei gilydd, dod o hyd i ysbrydoliaeth a darparu profiad bythgofiadwy.

Wedi’i lleoli yng nghalon Sir y Fflint, yn edrych dros Fryniau Clwyd (ardal o harddwch naturiol eithriadol), Theatr Clwyd yw theatr a chanolfan celfyddydau arobryn Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd godidog a gofod hyblyg hardd, gall yr adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar

ddarparu lle ar gyfer eich digwyddiadau a’u curadu, ar draws ystod o raddfeydd a chyllidebau.

Mae ein bwyty ni, Bryn Williams yn Theatr Clwyd, y mae ei fwyd tymhorol, cynaliadwy yn cael ei greu gan brif gogydd Cymru a’i dîm, yn cyd-fynd yn berffaith â’r theatr, y ddawns a’r comedi o safon byd sydd ar ein llwyfannau ni.

Y lleoliad perffaith i fywiogi, cymell ac ysbrydoli eich timau chi, eich cydweithwyr a’ch partneriaid.


Lle Am Ffocws

Camwch allan o'r swyddfa - o’r sŵn, y tarfu a’r ymyrraeth – a chofleidio lleoliad heddychlon, heb unrhyw beth i dynnu eich sylw, ar gyfer eglurder a chynhyrchiant. Bydd hyn yn gyfle i chi weithio ar eich syniad mawr nesaf, archwilio eich nodau a’ch amcanion, neu ddim ond ailwefru eich batris.

Mae ein gofodau ni’n cynnig popeth sydd arnoch chi ei angen ar gyfer encil, cyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad ysbrydoledig i'ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Gyda gofod gweithio sy'n galluogi digon o ffocws, rheoli digwyddiadau pwrpasol a mynediad unigryw i weld hud theatrig yn cael ei greu.

Dod  Thimau At Ei Gilydd

Dychmygwch eich timau chi’n camu allan o'u trefn ddyddiol i ofod creadigol croesawgar, lle mae cydweithrediad a syniadau'n llifo'n ddiymdrech.

Cydweithredu dros weithgareddau meithrin tîm sy'n ysbrydoli ac yn ymgysylltu cyn mwynhau bwyd blasus wedi'i baratoi i bawb ei fwynhau, gan gryfhau undod a’r ymdeimlad o dîm.

Gorffennwch eich diwrnod gyda sioe theatrig gofiadwy i adnewyddu ysbryd a chymhelliant eich tîm. Mae ein gofodau ni’n cynnig y teimlad a'r hyblygrwydd i'ch helpu chi i weld safbwyntiau newydd, cael eiliadau arloesol, a breuddwydio ar raddfa fawr.


Ein Gofodau.


Wedi'i gynnwys gyda phob archeb yn amodol ar argaeledd:

🗸 Rheolwr Digwyddiad

🗸 Taflunydd a Sgrin

🗸 Meicroffon ac Offer A/V

🗸 Cyfleusterau Galwadau o Bell Sylfaenol

🗸 Wifi Cyflymder Uchel Am Ddim

Prisiau ychwanegol ar gael ar gais:

🗸 Te, Coffi a Byrbrydau

🗸 Ffrydio byw

🗸 Ffilmio

🗸 Pecyn Tocyn Theatr

🗸 Bwydlen Digwyddiad ac Arlwyo


🗸 Peiriannydd Sain

🗸 Lansiad Cynnyrch Llawn

🗸 Cymorth Technegol

🗸 Darpariaeth Sinema

🗸 Cofrestru Digwyddiad

🗸 Hwyluso gwesteiwyr / siaradwyr


Bryn Williams yn Theatr Clwyd

Wedi’i ysbrydoli gan harddwch bryniau Clwyd a bywiogrwydd ein theatr ni, mae’r cogydd arobryn o Gymru, Bryn Williams, wedi llunio bwydlenni tymhorol, cynaliadwy, creadigol i gyd-fynd â’ch digwyddiad chi.

Canapés: Cyfle i fwynhau campweithiau bach o flasau lleol, wedi'u cynllunio i gyd i danio'r palet a chyfareddu’r synhwyrau.

Bwyd Powlen: Coflaid gysurus o fwyd sy'n cofleidio dyfnder blas - perffaith ar gyfer ciniawau a swperau anffurfiol.

Bwyd O Safon: Ein bwydlenni bwyd o safon sy’n adlewyrchu’r gorau gan ein cogydd arobryn - soffistigedig ac yn dathlu cynhyrchwyr bwyd Gogledd Cymru.



Cysylltwch

Mae ein tîm ni yma i helpu i gefnogi eich digwyddiad - o'r syniad cychwynnol i'r eiliad olaf - cysylltwch â ni i gael dyfyn-bris pwrpasol ac am ragor o wybodaeth

events@theatrclwyd.com | 01352 344101