Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu


System Cymorth Clywed

Rydyn ni’n gwella ein darpariaeth cymorth clywed! Mae gennym ni system cymorth clywed ar gyfer y pantomeim - mae sain y sioe yn cael ei chymysgu'n broffesiynol a'i throsglwyddo i glustffonau, gan ddarparu sain gliriach ac fe allwch chi reoli'r sain hefyd. I ddefnyddio'r system, ewch i ben pellaf y bar (y pen pellaf o'r fynedfa), lle gallwch chi fenthycatrosglwyddydd a chlustffonau (gallwch ddod â'ch clustffonau gwifrau eich hun gyda jac 3.5mm safonol os yw'n well gennych chi). Fel arall, os ydych chi’n defnyddio cymhorthion clyw sy'n gweithio gyda dolen sain / dolen T, gallwn ddarparu dolen gwddw bersonol.

Amddiffynwyr Clustiau

Mae gennym ni nifer cyfyngedig o amddiffynwyr clustiau y mae posib eu benthyca gan ein tîm. Gallwch gasglu pâr ym mhen pellaf y bar, ond plîs dewch â’r rhain yn ôl ar ddiwedd y sioe fel ein bod yn gallu eu glanhau a sicrhau eu bod ar gael i gwsmeriaid eraill.


Ear Defenders

We have a limited number of ear defenders that can be borrowed from our team. You can pick a pair up at the far end of the bar, but please return them to us at the end of the show so that we can clean them and make them available for other customers.


Perfformiadau â Chapsiynau

Mae gennym berfformiadau â chapsiynau’n rheolaidd.

Mae'r blwch capsiwn yn newid lleoliad o sioe i sioe i wneud y profiad cystal â phosibl. Er ein bod yn labelu’r seddi gorau sy’n dangos orau o’r bocs, rydym yn argymell rhoi galwad cyflym i’n swyddfa docynnau i sicrhau eich bod yn cael y seddi gorau sydd ar gael.


Perfformiadu BSL

Rydym yn cynnal perfformiadau dehongli BSL yn rheolaidd. Lle bo modd, rydym yn hysbysebu pwy yw'r dehonglydd. Wrth archebu ar-lein bydd safle’r dehonglydd yn cael ei ddangos ar y cynllun eistedd pan fyddwch yn archebu (gweler y llun uchod).

Cliciwch yma
am fanylion am ein perfformiadau wedi'u dehongli â chapsiynau BSL.

Cŵn Cymorth
Croesawn gŵn cymorth clyw.

Siaradwch â'n tîm swyddfa docynnau os oes angen help arnoch i ddewis y seddi gorau i'w harchebu gyda lle ar eu cyfer neu unrhyw geisiadau sydd gennych ar eich cyfer chi neu'ch ci.
Archebu Tocynnau Mynediad
Angen mynediad i seddi hygyrch. Gallwch hefyd osod neu ddiweddaru eich gofynion mynediad ar eich cyfrif ar-lein i gael mynediad.

Cliciwch yma
i ddarllen ein canllaw sut mae gwneud hyn.

Anfon E-bost Atom

Gwerthfawrogwn nad galwadau ffôn yw’r ffordd fwyaf hygyrch o gyfathrebu a chroesawn ymholiadau e-bost i boxoffice@theatrclwyd.com neu access@theatrclwyd.com.



Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.