Bwrdd Cynghori Ieuenctid

Mae Theatr Clwyd wedi recriwtio Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol newydd sbon. Nod y Bwrdd yw helpu i lunio dyfodol Theatr Clwyd gan roi lleisiau ifanc wrth galon popeth mae’n ei wneud. Mae’r Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol yn grŵp o bobl ifanc 11 i 25 oed a fydd yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn i drafod a breuddwydio gyda’i gilydd am ddyfodol Theatr Clwyd. Bydd Cadeirydd ac Is Gadeirydd ar gyfer y bwrdd yma a fydd hefyd yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr llawn Theatr Clwyd.

0 Stars

Rydw i a’r ymddiriedolwyr yn Theatr Clwyd yn gyffrous iawn bod y Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol yn dod yn rhan o’n strwythur llywodraethu a gwneud penderfyniadau ni. Bydd Liam a Kate fel Prif Weithredwyr yn mynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd Ieuenctid, ac rydyn ni wedi cadarnhau y gallant fod yn is-bwyllgor swyddogol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Byddwn hefyd yn croesawu pwy bynnag fydd yn cael ei benodi yn Gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol i fod yn un o ymddiriedolwyr swyddogol Theatr Clwyd, a bydd yr Is Gadeirydd yn bresennol fel arsylwr. Bydd gan y ddau fentoriaid o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bydd hyn i gyd yn gyfle i ni roi pobl ifanc wrth galon ein penderfyniadau ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni!
Helen Watson, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd