Ydi Bryn yn coginio yn Theatr Clwyd?
Ydi, bydd Bryn yn coginio yn gyson yn Theatr Clwyd!

A fydd gennych chi ddigwyddiadau arbennig?
Bydd gennym ni ddigwyddiadau arbennig โ€“ cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol aโ€™n gwefan ni am fanylion.

Oes gennych chi opsiynau llysieuol?
Oes. Bydd gennym ni opsiynau llysieuol a fegan ar gael.

O ble ydych chiโ€™n cael eich cynnyrch?
Ein nod ni yw defnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol. Mae gan Ogledd Cymru gynhyrchwyr bwyd anhygoel ac rydyn niโ€™n falch oโ€™u defnyddio nhw.

Oes posib mwynhau swper a gweld sioe hefyd?
Oes โ€“ mae gennym ni amseroedd eistedd lle gallwch chi fwynhau pryd dau neu dri chwrs ac wedyn gweld un o'n sioeau ni o safon byd.

Oes raid i mi archebu bwrdd neu ddim ond dod iโ€™r bwyty?
Does dim rhaid archebu, er hynny, byddem yn argymell archebu ymlaen llaw bob amser yn ystod adegau prysur (gyda'r nos fel arfer, yn gynnar, yn ystod y ddwy awr cyn i sioeau a ffilmiau ddechrau).

Sut gallwn ni archebu lle ymlaen llaw?
Mae posib archebu pryd yn gynnar gydaโ€™r nos wrth brynu tocyn sioe (rhwng 4 a 12 mis cyn y digwyddiad fel arfer). Mae posib archebu lle yn y bwyty hyd at dri mis ymlaen llaw.

Sut mae archebu bwrdd?
Cliciwch yma!

Allwch chi ddarparu ar gyfer grwpiau mawr?
Gallwn. Byddem yn argymell eich bod yn archebuโ€™n gynnar โ€“ cysylltwch รข ni a gallwn roi gwybod i chi am argaeledd.

Oes gennych chi opsiynau dim glwten?
Oes - bydd gennym ni opsiynau dim glwten ar y fwydlen (neu opsiynau y mae posib eu newid i'w gwneud yn rhai heb glwten). Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu!

Mae gen i alergeddau - ydych chi'n gallu gwneud newidiadau iโ€™r fwydlen?
Gallwn ddarparu ar gyfer pob alergedd os byddwch yn rhoi rhybudd wrth archebu.

Pryd fydd y fwydlen yn cael ei chyhoeddi?
Mae ein bwydlen brecwast ac a la carte niโ€™n newid yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i gyd-fynd รขโ€™r tymhorau. Bydd ein bwydlenni ni ar werth o 1 Mehefin 2025 ymlaen.

A fyddaf yn gallu prynu llyfr coginio neu gynhyrchion Bryn?
Byddwch, mae llyfrau Bryn ar gael yn y bwyty ynghyd รข nwyddau Brynโ€™s Kitchen, ond hefyd ar-lein yma.

Faint maeโ€™r prydau yn ei gostio?
Mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau i chi eu mwynhau โ€“ o frechdanau a chacennau yn ein caffi ni iโ€™n bwydlen tri chwrs โ€“ ein nod ni yw darparu ar gyfer amrywiaeth o gyllidebau.

Oes posib i mi bicio i mewn a mwynhau brechdan a chacen?
Oes wrth gwrs! Rydyn niโ€™n gweini dewis amrywiol o frechdanau a baguettes, rholiau cig moch, bocsys bysedd pysgod ac amrywiaeth o gacennau.

Ydw iโ€™n gallu archebu lle heb orfod gweld sioe?
Ydych, ac rydyn niโ€™n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi. Cliciwch yma i archebu.